Amdanom ni

Arluniaethau ac anrhegion Cymreig Croeso; Mae’r wefan hon yn gwerthu arluniaethau, anrhegion, dillad ac addurniadau eraill wedi’u gwneud â llaw, e.e. cardiau post a dyluniadau swynol; mae pob un wedi’i wneud er mwyn ychwanegu ‘chydig bach o liw a chynhesrwydd i’ch bywydau. Ein harwyddair yw “creu â chalon” ac i roi sylw manwl i ddewisiadau ein cwsmeriaid. Dyna pam mae gennym bortffolio eang ar y wefan hon gydag arddulliau arfaethedig sydd ar gael i’w dewis. Rydym wedi ein lleoli yng Nghymru felly mae thema Gymreig yn rhedeg trwy ein rhoddion a’n celfyddyd o lwyau caru, i’n cynhyrchion llechi a’n arluniaethau Cymreig.

Arluniaethau gwreiddiol o Gymru a mwy

 Mae gennym arluniaethau gwreiddiol o dirluniau hyd at ddarluniau bywyd llonydd mewn nifer o arddulliau. Mae ein arluniaethau gwreiddiol yn fforddiadwy ac wedi’u paentio â chariad yng Nghymru. Os yw’r pris gwreiddiol yn ormod am yr hyn sydd gennych mewn golwg, mae yna lawer o opsiynau eraill megis prynu print gynfas o un o’n alrluniaethau, mwg neu hyd yn oed clustog gyda delwedd ohono wedi’i argraffu arno – rhodd feddylgar i anwylyd.

Felly, oherwydd bod gennym ddewis mor eang mae yna rywbeth i bawb. Ȃ diolch i’n profiad artistig, adnabyddiaeth, crefftwaith ac angerdd rydym yn gobeithio cyrraedd eich disgwyliadau a’ch chwaeth yn y ffordd orau bosibl. Rydym yn gwmni ifanc yng Nghymru, ond gyda blynyddoedd hir o brofiad artistig a phroffesiynol.

Os hoffech chi gysylltu â ni, defnyddiwch ein ffurflen gyswllt.